Os nad ydych yn siwr beth yw pwrpas rhai o'r eitemau sydd gennym i gynnig, neu pa eitemau fydd o ddefnydd i chi, darllenwch gynnwys y dudalen hon. Rydym wedi cofnodi esboniad byr o phob eitem arferol sydd ar gael i archebu, er mwyn eich helpu gwneud penderfyniad ar beth sy'n addas i chi.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu trwy ebost.
yma i'ch helpu
cymorth wrth ddewis eich deunyddiau papur
Cardiau Cadw'r Dydd yn Rhydd
Gwahoddiadau
Cardiau Manylion
Cardiau RSVP
Cardiau Gwefan
Amlenni
Leineri Amlen
Mae cerdyn cadw’r dydd yn rhydd yn hysbysu’ch gwesteion o ddyddiad a bras leoliad eich priodas. Yn y DU danfonir rhain rhyw 10 - 12 mis ymlaen llaw. Nid yw pawb yn dewis eu danfon ond maent yn arbennig o ddefnyddiol i gyplau â theuluoedd sy’n byw ymhell er mwyn iddyn wneud trefniadau teithio, sy’n priodi ar adegau prysu o’r flwyddyn, neu sy’n bwriadu priodi dramor gan fydd angen blaenrybudd ar eich gwesteion.
Y gwahoddiad yw’r hysbysiad ffurfiol o’ch priodas (yn enwedig os nad ydych wedi danfon cerdyn cadw’r dydd yn rhydd). Mae gwahoddiadau wedi’u dylunio a’u cynhyrchu’n gain yn gosod naws eich diwrnod mawr ac fe’u danfonir tua 4 mis cyn y briodas. Mae hyn yn ddigon o amser i’ch gwahoddedigion gadarnhau eu presenoldeb ac ar gyfer cwblhau trefniadau eraill sy’n ddibynnol ar wybod niferoedd pendant megis yr arlwyo a’ch cynllun eistedd. Dylid danfon gwahoddiadau mewn da bryd os yw’r briodas dramor neu os oes gwesteion yn mynychu o dramor er mwyn iddynt wneud trefniadau.
Mae cerdyn manylion yn eitem ychwanegol i’r set gwahoddiad er mwyn cyfathrebu unrhyw wybodaeth ychwanegol, er enghraifft manylion llety neu wisg. Yn ddibynnol ar faint o wybodaeth sydd gennych i’w drosglwyddo medrwn gynghori ar faint gorau i’r cerdyn, boed fawr (5x7) neu arferol (A6). Serch hynny, mae rhai yn dewis rhoi’r wybodaeth yma i’w gwesteion ar wefan priodas er mwyn cyfleustra.
Awgrymir yn gryf eich bod yn gofyn i’ch gwesteion gadarnahu eu presenoldeb er mwyn ichi fedru trefnu’ch priodas yn effeithlon. Bydd lleoliad eich priodas, yr arlwywyr a chyflenwyr eraill yn eich cynghori ar yr adeg maent angen rhif terfynol y gwesteion. Dylid gofyn am ymatebion rai wythnosau ynghynt er mwyn rhoi amser ichi atgoffa’r rheini sydd heb ymateb. Mae rhai cyplau yn dewis derbyn ymatebion drwy ebost neu wefan priodas.
Mae’r ychwanegiad bach hwn i’ch gwahoddiad yn ffordd i arwain eich gwahoddedigion i’ch gwefan priodas, eich rhestr rhoddion, neu i gadarnhau presenoldeb. Medr defnyddio hwn yn hytrach na cherdyn manylion ac mae’n cadw’r gwahoddiad yn glir o ormodedd o wybodaeth sy’n medru llethu’r dyluniad.
Fel arfer, rydym yn cynnig amlenni gwyn neu 'kraft' (brown) i gyd-fynd gyda'n gwahoddiadau. Serch hynny, rydym hefyd yn cynnig detholiad o amlenni lliw am 'upgrade' ychwanegol.
Mae leinin amlen yn fordd o ychwanegu harddwch a moethusrwydd i amlenni cyffredin.
Cyn eich dathliad
Diwrnod eich dathliad
Cynllun Byrddau
Cardiau Lle Eistedd
Rhifau Bwrdd
Bwydlenni
Trefn y Gwasanaeth
Arwyddion
Mae cynllun eistedd yn hanfodol i sicrhau bod eich gwahoddedigion yn medru darganfod eu sedd yn hawdd gan alluogi eich neithior i ddechrau ar amser. Fel bod pawb yn medru eu darllen yn hawdd argraffwn rhain ar gerdyn A1 sydd hefyd yn golygu eu bod yn eistedd yn urddasol ar îsl. Defnyddiwn fwrdd foamex 3 milimedr i’w gwneud yn gadarn. Dylech osod eich gwesteion fel eu bod yn gyffyrddus a’u heistedd â phobl adnabyddus.
Mae cardiau lle eistedd yn gweithio law yn llaw a’ch cynllun eistedd gan hysbysu’ch gwesteion o’i hunion sedd. Ar gyfer y mwyafrif o briodasau mae trefniadau eistedd yn bwysig i sicrhau bod eich gwahoddedigion yn mwynhau’r diwrnod ac er mwyn hwyluso’r gweini bwyd, yn enwedig os oes gennych westeion âg anghenion bwyta neu os oes dewisiadau bwyd gwahanol i bob un.
Ffordd gyfleus i’ch gwesteion ddarganfod eu seddi yw arwyddion gyda rhif neu enw’r bwrdd arnynt. Argraffwn rhain bob ochr yn arferol fel eu bod mor hyblyg â phosibl o ran eu gosod.
Er bod gwesteion fel arfer wedi dewis eu bwyd o flaen llaw mae cerdyn bwydlen yn ddefnyddiol i’w hatgoffa o’r wledd o’u blaen. Maent hefyd yn atodiad celfydd i edrychiad y bwrdd bwyta. Pan y’u defnyddir rhoddir hwy wrth bob lle gosod fel arfer ond, er mwyn arbed arian, mae modd rhoi ambell un i bob bwrdd.
Mae cerdyn trefn gwasanaeth yn draddodiadol ar gyfer gwasanaethau crefyddol i alluogi’r gwesteion i ddilyn gweddïau, darlleniadau ac emynau. Ond, yn gynyddol, defnyddir hwy mewn gwasanaesthau sifil ac, fel arfer, ynddynt ceir enwau eich parti priodasol a gair o ddiolch i’ch teulu a ffrindiau am ddod. Noder os yw’ch seremoni yn grefyddol mae cynnwys eich trefn gwasanaeth yn aml yn cael ei osod gan y sefydliad y byddwch yn priodi ynddo ac yn aml fe fyddant yn dymuno gweld copi digidol cyn argraffu.
Er nad yw arwyddion yn hanfodol i’ch archeb deunudd papur maent yn ddefnyddiol, ac yn gynyddol boblogaidd, ar gyfer y diwrnod ei hun. Rhai cyffredin yw arwyddion croeso, i gyfarch eich gwahoddedigion, neu drefn y diwrnod, fel bod pawb yn lle iawn ar yr adeg cywir (megis yr hollbwysig dorri’r gacen!). Fel bod pawb yn medru eu darllen yn hawdd argraffwn rhain ar gerdyn A1 sydd hefyd yn golygu eu bod yn eistedd yn urddasol ar isl. Defnyddiwn fwrdd foamex 3 milimedr i’w gwneud yn gadarn.