CASGLIAD STIWDIO

POPPY

Mae modd i chi dewis a dethol yr eitemau rydych am ychwanegu i'r archeb i greu set sydd. yn addas ar gyfer eich gofynion a'ch cyllid.

Mae eitemau ar gyfer diwrnod eich dathliad hefyd ar gael ar gais.

Mae modd addasu'r dyluniad hwn trwy:
   • Dewis o ddulliau argraffu
   • Dewis o bapur
   • Dewis o liwiau inc
   • Dewis o addurniadau ac ategolion
   • Newid y geirio

Mae gwybodaeth bellach am yr addasiadau posib is law'r dudalen.
Mae prisiau pob eitem ar gael ar ein Rhestr Brisiau.



CYSYLLTWCH AM AMCANBRIS

ysbrydoliaeth

GWASG FFOIL

argraffiad digidol

Y dull argraffu mwyaf cost effeithiol o'r tri. Ychwanegir inc heb adael argraffiad yng ngwead y papur. Ar gyfer y canlyniadau gorau, rydym yn argymell inc tywyll ar bapur gwyn/golau. Mae argraffu ag inc gwyn ar gael ar gyfer ambell i liw papur tywyll. Addas ar gyfer ein tri phapur arferol.

Gwasgir inc i'r papur gan adael argraffiad amlwg yng ngwead naturiol y papur. Mae llythrenwasg ar ei orau â phapurau cotwm. Os cynyddir trwch y papur, cynyddir trwch yr argraffiad - oblegid hyn rydym yn argymell papur trwchus 600gsm+. Dydy llythrenwasg ddim yn addas ar gyfer papur tywyll.

Mae cost ychwanegol ac amser prosesu hirach ar gyfer llythrenwasg.

LLYTHRENWASG

Ychwanegir ffoil metelig i'r papur trwy ddefnyddio gwasgedd a gwres gan adael argraffiad ysgafn yng ngwead naturiol y papur. Mae lliwiau'n cynnwys aur, aur binc, copr, arian, du, gwyn a holograffig. Lliwiau eraill ar gael ar gais. Mae gwasg ffoil yn addas ar gyfer papurau golau a thywyll.

Mae cost ychwanegol ac amser prosesu hirach ar gyfer wasg ffoil.

DULLIAU ARGRAFFU

Argraffu digidol yw ein gwasanaeth arferol a'r opsiwn mwyaf cost effeithiol. Rydym yn argraffu'n ddigidol ar: Bapur gwyn â gwead morthwylio mân 300gsm, Papur gwyn llyfn 350gsm a felwm tryloyw 150gsm.

Mae gwasg ffoil a llythrenwasg ar gael hefyd. Rydym yn trefnu amcan brisiau am y gwasanaethau yma ar gais, ac mae dewis ehangach o bapurau a lliwiau ar gael sy'n addas ar gyfer y dulliau argraffu moethus yma. Rydym yn hapus i argymell y papur gorau am eich archeb chi.

ROSE

INK COLOURS

BALLET

claret

rust

arizona

golden hour

camel

racing

cactus

olive

dusky blue

navy

lavender

lilac

black

grey

Dyma'n detholiad o'n lliwiau mwyaf poblogaidd. Rydym yn argymell lliwiau cryf/tywyll ym mhob achos ar gyfer y canlyniadau gorau - mae hyn yn fwy pwysig ar gyfer darllenadwyaeth y testun. Mae inc gwyn ar gael i'w argraffu ar garden du, navy neu gerdyn 'kraft' brown. Mae llythrenwasg sych yn gadael yr argraffiad yng ngwead y papur heb inc.

Rydym yn ymdrechu i ddangos ein lliwiau mor gywir ag sy'n bosib, ond cofiwch fod lliwiau yn ymddangos yn wahanol o un sgrin i'r llall, ac yn wahanol wedi'u hargraffu.

RUST

ARIZONA

GOLDEN HOUR

CAMEL

RACING

CACTUS

OLIVE

DUSKY BLUE

NAVY

LAVENDER

LILAC

GREY

AMLENNI

Ym mhris y gwahoddiadau mae amlenni gwyn neu brown gwaed 'kraft'.
Mae amrywiaeth o amlenni lliw ar gael. Fe’u gwneir yn arbennig o babur mwy trwchus na’r arfer ac fe ddont â thafod pig neu syth sy’n rhai plicio a selio.

Mae amlenni lliw yn £1.00 yr un.

Rydym yn ymdrechu i ddangos ein lliwiau mor gywir ag sy'n bosib, ond cofiwch fod lliwiau yn ymddangos yn wahanol o un sgrin i'r llall.

SELIAU CWYR

RHUBAN SIDAN

Defnyddiwn ruban sidan Habotai drudfawr ag ymyl moel sydd wedi ei liwio â llaw gan ddefnyddio lliwiau naturiol. Dyma’r ffordd mwyaf moethus i glymu’ch gwahoddiadau gan wefreiddio’ch gwesteion. Mae’r amrediad o liwiau sydd ar gael yn amrywio ac rydym yn hapus i’ch cynorthwyo i ddewis lliw fydd yn gweddu’ch deunudd papur.

Mae rhuban sidan yn £2.50 ychwanegol y bwndel gwahoddiad.

Clymwch eich gwahoddiadau â chordyn swêd ffug er mwyn rhoi edrychiad modern a chwaethus iddynt. Mae amrywiaeth o liwiau ar gael, o wawriau naturiol (ein ffefrynnau) i’r llachar.

Mae cordyn swed ffug yn £1.00 ychwanegol y gwahoddiad.

CORDYN SWÊD FFUG

I orffern eich gwahoddiad ag urddas mae gennym seliau cwyr hunanadlynol â dyluniadau o fyd natur. Defnyddir rhan gan amlaf i selio rhwymyn canol papur neu felwm y bwndel gwahoddiad neu i gau’r amlen.

Mae seliau cwyr yn £0.80 yr un.

Nid ydym yn argymell defnyddio’r seliau cwyr ar amlenni fydd yn mynd drwy’r post gan eu bod yn aml yn torri.

Lle bod rhaid postio’r gwahoddiad awgrymwn ddefnyddio amlen allanol i amddiffyn yr amlen fewnol â’r sêl cwyr.

ATEGOLION

Mae gennym arlwy o ategolion er mwyn cyfareddu’ch gwahoddedigion - amlenni lliw, seliau cwyr, rhuban sidan a mwy.

Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth teilwredig ar gyfer chi sy'n dymuno gwahoddiadau unigryw.

WEDI'I DEILWRA I CHI

HOLWCH AM FWY O WYBODAETH